Isaiah 28:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ARGLWYDD a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; bydd yn cyffroi i wneud ei waith fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon — ond bydd yn waith rhyfedd! Bydd yn cyflawni'r dasg — ond bydd yn dasg ddieithr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim, ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon, i orffen ei waith, ei ddieithr waith, ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl.