Isaiah 28:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a'r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win; maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw. Mae'r offeiriad a'r proffwyd wedi meddwi'n gaib ar gwrw a drysu'n lân ar win. Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw, a'i gweledigaethau'n ddryslyd; maen nhw'n baglu wrth farnu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae eraill sy'n simsan gan win, ac yn gwegian yn eu diod; y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod, ac wedi drysu gan win; y maent yn gwegian mewn diod, yn simsan yn eu gweledigaeth, ac yn baglu yn eu dyfarniad.