Isaiah 29:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddi! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwae Ariel! Ariel, y ddinas ble roedd Dafydd yn byw! Mae'r blynyddoedd yn mynd heibio a'r gwyliau yn pasio yn eu tro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae Ariel, Ariel, y ddinas lle gwersyllodd Dafydd. Gadewch i'r blynyddoedd fynd heibio, aed y gwyliau yn eu cylch;