Isaiah 29:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi ei selio. Mae'n cael ei roi i rywun sy'n gallu darllen, a gofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi ei selio”.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, "Darllen hwn i mi", fe etyb, "Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio."