Isaiah 29:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â'u genau, ac yn fy anrhydeddu â'u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddwedodd y Meistr: Mae'r bobl yma'n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i. Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond traddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, "Oherwydd bod y bobl hyn yn nesu ataf a thalu gwrogaeth i mi geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,