Isaiah 29:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni'm gwnaeth i? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a'i lluniodd, Nid yw ddeallus?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi mor droëdig! Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai? Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth, “Wnaeth e mohono i!” Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un â'i siapiodd, “Dydy e'n deall dim!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troi popeth o chwith yr ydych. A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai? A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr, "Nid ef a'm gwnaeth"? A ddywed y llestr am ei luniwr, "Nid yw'n deall"?