Isaiah 29:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i'r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i'r cyfiawn ŵyro am beth coeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr, ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas, a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawn gyda dadl wag.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd, yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth, ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.