Isaiah 29:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob — y Duw brynodd ryddid i Abraham: Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto! Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth du375? Jacob, y Duw a waredodd Abraham: "Nid yw'n amser i Jacob gywilyddio, nac yn awr i'w wyneb welwi;