Isaiah 29:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a ostyngir; o'r ddaear y lleferi, ac o'r llwch y bydd isel dy leferydd; dy lais fydd hefyd o'r ddaear fel llais swynwr, a'th ymadrodd a hustyng o'r llwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd; bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch. Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd, bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'th ddarostyngir, a byddi'n llefaru o'r pridd, ac yn sisial dy eiriau o'r llwch; daw dy lais fel llais ysbryd o'r pridd, daw sibrwd dy eiriau o'r llwch.