Isaiah 29:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a'i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag; neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp. Felly bydd hi ar yr holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag, fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig. Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.