Isaiah 3:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy mhobl sydd â'u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a'th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd plant yn feistri ar fy mhobl, a merched yn eu rheoli. O fy mhobl! mae dy arweinwyr yn dy gamarwain; maen nhw wedi dy ddrysu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Plant sy'n gorthrymu fy mhobl, a gwragedd sy'n eu rheoli. O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain, ac yn drysu trywydd dy lwybrau.