Isaiah 3:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a'u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae eu ffafriaeth wrth farnu yn tystio yn eu herbyn; maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom, heb geisio cuddio dim! Gwae nhw! Maen nhw wedi dod â dinistr arnyn nhw eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn, ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom. Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain.