Isaiah 30:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio, ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bydd y drygioni hwn yn eich golwg fel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd, ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;