Isaiah 30:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni'ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc; pump yn bygwth a pawb yn dianc. Bydd cyn lleied ar ôl byddan nhw fel polyn fflag ar ben bryn, neu faner ar ben mynydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un; ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadael fel lluman ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn."