Isaiah 30:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am hynny y disgwyl yr ARGLWYDD i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys DUW cyfiawnder yw yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn; ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.