Isaiah 30:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a'r llew ieuanc, y wiber a'r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a'u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neges am ‛Anifeiliaid y Negef‛: Yn nhir trafferthion a chaledi, gwlad y llewes a'r llew cry, y neidr a'r wiber wibiog, maen nhw'n cario eu cyfoeth ar gefn asynnod, a'u trysorau ar gefn camelod, ar ran pobl sy'n dda i ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oracl am anifeiliaid y Negef: Trwy wlad caledi a loes, gwlad y llewes a'r llew, y wiber a'r sarff hedegog, fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnod a'u trysorau ar grwmp camelod, at bobl ddifudd.