Isaiah 31:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid DUW; a'u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr ARGLWYDD ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pobl feidrol ydy'r Eifftiaid, nid Duw, a'u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd! Pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law, bydd yr helpwr yn baglu a'r un sy'n cael ei help yn syrthio — Bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda'i gilydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meidrolion yw'r Eifftiaid, nid Duw; a chnawd yw eu meirch, nid ysbryd; pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law, fe fagla'r cynorthwywr ac fe syrthia'r sawl a gynorthwyir, a darfyddant oll gyda'i gilydd.