Isaiah 31:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Megis y rhua hen lew a'r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn ARGLWYDD y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i: Fel mae llew, neu lew ifanc, yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth, a ddim yn dychryn wrth glywed sŵn criw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl. Dyna sut bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dod i lawr i ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Fel y rhua llew neu lew ifanc uwchben ei ysglyfaeth ac er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn nid yw'n dychryn rhag eu gwaedd, nac yn ofni rhag eu twrf felly y daw ARGLWYDD y Lluoedd i lawr i frwydro dros Fynydd Seion a'i bryn.