Isaiah 33:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo i ti anrheithio, y'th anrheithir; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant anffyddlon i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio; ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu! Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio; pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio, ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo; pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir, pan beidi thwyllo, fe'th dwyllir di.