Isaiah 33:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elwa drwy dwyll, na derbyn breib, yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed, ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elw trawster, sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr, sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio, sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.