Isaiah 33:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n cael dy ddarn o dir a fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflag na chodi eu baner yno. Bydd digonedd o ysbail i gael ei rannu, a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae dy raffau'n llac, heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le, ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu. Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr, a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.