Isaiah 33:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd neb sy'n byw yno'n dweud, “Dw i'n sâl!” Bydd y bobl sy'n byw yno wedi cael maddeuant am bob bai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddywed neb o'r preswylwyr, "'Rwy'n glaf", a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.