Isaiah 33:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A sicrwydd dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr ARGLWYDD yw ei drysor ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser. Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth, a pharch at yr ARGLWYDD — dyna ei drysor iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ef fydd sicrwydd dy amserau. Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth, ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.