Isaiah 33:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfu cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r priffyrdd yn wag! Mae'r teithwyr wedi diflannu! Mae'r cytundebau wedi eu torri, a'r tystion yn cael eu dirmygu. Does dim parch at fywyd dynol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith, heb neb yn troedio'r ffordd; diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau, nid yw neb yn cyfrif dim.