Isaiah 33:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Galarodd a llesgaodd y ddaear; cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano! Mae Libanus yn crino a gwywo! Mae Saron fel anialwch, a Bashan a Carmel wedi colli eu dail.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r wlad mewn galar a gofid, Lebanon wedi drysu a gwywo; aeth Saron yn anialwch, a Basan a Charmel heb ddail.