Isaiah 34:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pelican hefyd a'r draenog a'i meddianna; y dylluan a'r gigfran a drigant ynddi; ac efe a estyn arni linyn anhrefn, a meini gwagedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd tylluanod a draenogod yn ei feddiannu; y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno. Bydd Duw yn ei fesur i achosi anhrefn ac yn ei bwyso i'w wagio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn, a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno; bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn, a phlymen tryblith dros ei dewrion.