Isaiah 34:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda'i gymar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau, i'w deor a gofalu amdanynt. A bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno, pob un gyda'i gymar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno y nytha'r dylluan, a dodwy ei hwyau a'u deor, a chasglu ei chywion dan ei hadain; yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu, pob un gyda'i gymar.