Isaiah 34:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cleddyf yr ARGLWYDD a lanwyd o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed ŵyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i'r ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed, a'i fodloni gyda brasder anifeiliaid — gwaed ŵyn a bychod geifr, a'r brasder ar arennau hyrddod. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra, a lladdfa yn Edom.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyf wedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster, ar waed u373?yn a bychod a braster arennau hyrddod. Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.