Isaiah 35:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y crastir hefyd fydd yn llyn, a'r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau, a'u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio. Bydd y fan ble roedd siacaliaid yn gorweddian yn troi'n gorsydd o frwyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bydd y crastir yn llyn, a'r tir sych yn ffynhonnau byw; yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal, bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn.