Isaiah 36:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, "Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi".'"