Isaiah 36:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Eliacim, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg: canys yr ydym ni yn ei deall; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Eliacim, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw y bobl sydd ar y waliau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Eliacim a Sebna a Joa wrth y prif swyddog, "Gwell gennym iti siarad ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur."