Isaiah 36:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Rabsace a ddywedodd, Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta eu cachu ac yfed eu piso eu hunain.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond atebodd y prif swyddog, "Ai at dy feistr a thithau yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl sydd ar y mur, a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu du373?r eu hunain?"