Isaiah 36:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a'n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwyliwch rhag i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.” Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerwch ofal rhag i Heseceia eich hudo chwi trwy ddweud, "Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu." A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?