Isaiah 36:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma frenin Asyria yn anfon ei gadfridog yn erbyn y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, a byddin enfawr gydag e. Dyma'r prif swyddog yn aros wrth sianel ddŵr y Pwll Uchaf, ar y ffordd i Faes y Pannwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac anfonodd brenin Asyria y prif swyddog byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia; ac fe safodd wrth bistyll y Llyn Uchaf, sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr.