Isaiah 36:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, â'u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd yn mynd at Heseceia a'u dillad wedi eu rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wedi ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho yr hyn yr oedd y prif swyddog wedi ei ddweud.