Isaiah 36:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os dywedi wrthyf, Yn yr ARGLWYDD ein DUW yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a'i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neu os dywedi wrthyf, "Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw", onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, "O flaen yr allor hon yr addolwch"?