Isaiah 37:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr awr hon gan hynny, O ARGLWYDD ein DUW, achub ni o'i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr ARGLWYDD, tydi yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael ef, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yw'r ARGLWYDD, tydi yn unig."