Isaiah 37:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a'i ddewis ffynidwydd; af hefyd i'w gwr uchaf, ac i goed ei ddoldir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti wedi defnyddio dy weision i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy dy weision fe geblaist yr ARGLWYDD, a dweud, "Gyda lliaws fy ngherbydau dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd, i bellterau Lebanon; torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd; euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog;