Isaiah 37:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir: Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni, a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw. Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi, plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bydd hyn yn arwydd i ti, Heseceia. Eleni bwyteir yr hyn sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ac yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd hefyd a bwyta'u ffrwyth.