Isaiah 37:36 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth angel yr ARGLWYDD i wersyll yr Asyriaid a tharo i lawr gant wyth deg a phump o filoedd; pan ddaeth y bore, cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.