Isaiah 37:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd Eseia wrthynt, "Dywedwch wrth eich meistr, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.