Isaiah 38:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw. Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trefna dy du375?, oherwydd 'Rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.'"