Isaiah 38:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; â nychdod y'm tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna i a'i symud fel pabell bugail. Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliain wedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygwyd fy nhrigfan oddi arnaf a'i symud i ffwrdd fel pabell bugail; fel gwehydd 'rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben, i'w torri ymaith o'r gwu375?dd. O fore hyd nos 'Rwyt yn fy narostwng.