Isaiah 38:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O ARGLWYDD, gorthrymwyd fi; esmwythâ arnaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur, ac yn cŵan fel colomen, wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny. ‘Fy ARGLWYDD! Dw i'n cael fy llethu! Achub fi!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith, 'rwy'n cwynfan fel colomen. Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny; O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof."