Isaiah 38:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y bedd ni'th fawl di, angau ni'th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i'r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti, a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di. Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti, nac angau yn dy glodfori; ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwll obeithio am dy ffyddlondeb.