Isaiah 38:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dos, a dywed wrth Heseceia, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele, mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dos, dywed wrth Heseceia, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr 'rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.