Isaiah 39:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Heseceia a lawenychodd o'u herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddynt dŷ ei drysorau, yr arian, a'r aur, a'r llysieuau, a'r olew gwerthfawr, a holl dŷ ei arfau, a'r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a'r nas dangosodd Heseceia iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw — yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Croesawodd Heseceia hwy, a dangos iddynt ei drysordy, yr arian a'r aur a'r perlysiau a'r olew persawrus, a hefyd yr holl arfdy a phob peth oedd yn ei storfeydd; nid oedd dim yn ei du375? nac yn ei holl deyrnas nas dangosodd Heseceia iddynt.