Isaiah 39:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn — o Babilon.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, "Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?" Atebodd Heseceia, "Daethant ataf o wlad bell, o Fabilon."