Isaiah 40:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr ARGLWYDD yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem, a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd; mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni. Yn wir, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud iddi dalu'n llawn am ei holl bechodau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem, a dywedwch wrthi ei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaeth a bod ei chosb wedi ei thalu, ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDD am ei holl bechodau.