Isaiah 40:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi ddim yn gwybod? Ydych chi ddim wedi clywed? Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau? Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni wyddoch? Oni chlywsoch? Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear?